Cefnogi dadansoddi data arolygon a holiaduron testun rhydd dwyieithog

Crynodeb o’r prosiect

Yn ein diwylliant modern a arweinir gan ddefnyddwyr, mae casglu ac ymateb i adborth yn rhan amlwg o arferion proffesiynol llawer o ffyrdd o fyw. Defnyddir arolygon, er enghraifft, ym maes datblygu staff a hyfforddiant proffesiynol, dylunio a phrofi cynnyrch, ac mewn gwahanol fathau o ddarparu gwasanaethau yn y sector cyhoeddus a phreifat.

Yn aml, bydd arolygon a holiaduron yn cynhyrchu cyfuniad o ddata meintiol ac ansoddol. Gellir meintioli ffurfiau meintiol, megis graddfeydd sgorio, cwestiynau amlddewis a chwestiynau trefn safleoedd yn rhwydd, a gellir eu dadansoddi mewn modd systematig sydd yn digwydd fel mater o drefn yn aml. Mae ffurfiau ansoddol o ymatebion testun rhydd yn fwy o her i’r cwmnïau/sefydliadau hynny sydd yn aml yn brin o’r arbenigedd sydd ei angen i ddadansoddi data o’r fath yn rhwydd. Er ei bod yn wir bod ystod o offer soffistigedig sydd ar gael i ddadansoddi testun yn bodoli i ddadansoddi data ansoddol, mae’r rhain yn aml yn ddrud, yn anodd eu ddefnyddio a/neu yn anhygyrch i ddefnyddwyr nad ydyn nhw’n arbenigwyr. Nid oes gan offer o’r fath lawer o gefnogaeth o ran dadansoddi testun dwyieithog, a bydd hyn yn her arbennig weithiau yng nghyd-destun Cymru, gan y dylai’r rheini sy’n ymateb i arolygon gael y cyfle bob amser i ymateb yn Saesneg a/neu yn Gymraeg. Ar Ddydd Gŵyl Dewi (1af Mawrth) yn 2022, cychwynnodd y gwaith ar brosiect a oedd â’r nod o fynd i’r afael a’r anghenion hyn, a hynny yn sgil datblygu pecyn cymorth newydd o’r enw ‘TestunRhydd’.

Cafodd ei gynllunio ar y cyd ag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caerhirfryn a phartneriaid y prosiect, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru, Cadw, CBAC a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Dyluniwyd TestunRhydd i gefnogi’r gwaith o ddadansoddi a delweddu amrywiaeth o ddata testun rhydd a phenagored yn y Gymraeg a’r Saesneg. Cafodd ei ddylunio ar gyfer defnyddwyr nad ydyn nhw’n arbenigwyr, a’r nod yw gwneud y pecyn cymorth mor hygyrch a greddfol ag y bo modd.

Yn ôl i’r brig

Prif nodweddion FreeTxt/TestunRhydd

Mae TestunRhydd yn defnyddio offer a methodolegau mynediad agored sydd eisoes yn bodoli mewn corpysau dwyieithog, gan eu hailbecynnu a mynd â nhw i gyfeiriad newydd, fel eu bod yn berthnasol i gynulleidfaoedd newydd/grwpiau newydd o ddefnyddwyr, yn enwedig y rheini nad ydyn nhw’n arbenigwyr. Mae hyn yn annog y defnyddiwr i fod yn ddarpar ddadansoddwr corpysau heb yr angen i wybod beth yw ystyr y gair corpws neu gydgordiad.

Mae TestunRhydd yn defnyddio offer a methodolegau mynediad agored sydd eisoes yn bodoli mewn corpysau dwyieithog, gan eu hailbecynnu a mynd â nhw i gyfeiriad newydd, fel eu bod yn berthnasol i gynulleidfaoedd newydd/grwpiau newydd o ddefnyddwyr, yn enwedig y rheini nad ydyn nhw’n arbenigwyr. Mae hyn yn annog y defnyddiwr i fod yn ddarpar ddadansoddwr corpysau heb yr angen i wybod beth yw ystyr y gair corpws neu gydgordiad.

  • chwilio am batrymau ystyr sy’n dod i’r amlwg mewn ymatebion ac adborth i arolygon,
  • gweld pa eiriau a ddefnyddir amlaf mewn perthynas â thema, lle, neu bwnc penodol, ac i
  • deall yr hyn yr oedd ymwelwyr yn ei fwynhau’n arbennig am wasanaeth neu atyniad, a’r hyn y gellid ei wella yn eu barn nhw.

Mae TestunRhydd bellach ar-lein ac ar gael yn rhad ac am ddim i bawb. I roi cynnig ar TestunRhydd ewch i: www.freetxt.app

Yn ôl i’r brig

Tîm y prosiect

Dawn Knight, Prifysgol Caerdydd (Prif Ymchwilydd y Prosiect) 

Mae Dr Dawn Knight yn Ddarllenydd mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol ym Mhrifysgol Caerdydd. Hi oedd Prif Ymchwilydd prosiect CorCenCC (Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes) ac mae’n gyd-Brif Ymchwilydd y prosiect Amrywio Rhyngweithiol Ar-lein (https://ivohub.com). Mae gan Dawn arbenigedd mewn ieithyddiaeth gorpws, dadansoddi sgyrsiau, rhyngweithio digidol a chyfathrebu heb eiriau ac mae’n gyn-Gadeirydd Cymdeithas Ieithyddiaeth Gymhwysol Prydain (BAAL). Dawn yw Prif Ymchwilydd prosiect FreeTxt/TestunRhydd. 

Paul Rayson, Prifysgol Caerhirfryn (Cyd-ymchwilydd ar y prosiect)

Mae’r Athro Paul Rayson yn gweithio yn yr Ysgol Cyfrifiadura a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Caerhirfryn, ac mae’n Gyfarwyddwr ar ganolfan ymchwil ryngddisgyblaethol UCREL sy’n gwneud gwaith ymchwil mewn ieithyddiaeth gorpws a phrosesu iaith naturiol (NLP). Un ffocws hirdymor i’w waith yw defnyddio NLP semantig amlieithog mewn amgylchiadau eithafol lle mae iaith yn swnllyd e.e. mewn amrywiadau hanesyddol, i ddysgwyr, llafar, e-bost, negeseuon testun, ymhlith eraill.

Mahmoud El-Haj, Prifysgol Caerhirfryn (Cyd-Ymchwilydd ar y Prosiect)

Mae’r Dr Mahmoud El-Haj (Mo) yn Ddarlithydd NLP ym maes Cyfrifiadureg yn Ysgol Cyfrifiadura a Chyfathrebu Prifysgol Caerhirfryn. Enillodd Mo PhD mewn Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Essex am ei ymchwil ynghylch Crynhoi Mwy nag un Ddogfen ar y Pryd. Mae’n ymwneud yn bennaf â Chrynhoi, Echdynnu Gwybodaeth, NLP Ariannol ac NLP amlieithog mewn sawl iaith megis Saesneg, Arabeg, Sbaeneg, Portiwgaleg a Chymraeg. Mae ganddo ddiddordeb mewn ieithoedd heb ddigon o adnoddau ac adeiladu setiau data NLP.  

Ignatius Ezeani, Prifysgol Caerhirfryn (Cydymaith Ymchwil)

Mae’r Dr Ignatius Ezeani yn Uwch Gydymaith Addysgu/Ymchwil ym Mhrifysgol Caerhirfryn. Mae ganddo ddiddordeb mewn defnyddio dulliau NLP i ddatblygu adnoddau ar gyfer ieithoedd llai eu hadnoddau megis Igbo a’r Gymraeg. Mae’n ymwneud ag addasu offer a dulliau cyfredol NLP yn effeithlon i lunio systemau ar gyfer gorchwylion penodol mewn ieithoedd llai eu hadnoddau.

Steve Morris, Prifysgol Caerdydd (Cydymaith Ymchwil Hŷn)

Mae Steve Morris yn Gymrawd Ymchwil er Anrhydedd mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol ym Mhrifysgol Abertawe lle gweithiodd gynt fel Athro Cysylltiol mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol a’r Gymraeg. Ynghyd â Dr Dawn Knight a’r Athro Tess Fitzpatrick, roedd yn gyd-luniwr prosiect CorCenCC (Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes) lle roedd hefyd yn Gyd-Ymchwilydd. Prif ganolbwynt ei waith o hyd yw’r rhyngwyneb rhyngddisgyblaethol rhwng Ieithyddiaeth Gymhwysol a’r Gymraeg.

Yn ôl i’r brig

Grŵp Cynghori’r Prosiect

  • Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru
  • Cadw
  • Amgueddfa Cymru
  • Emyr Davies, CBAC | WJEC
  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr, Canolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Yn ôl i’r brig

Cyrchu FreeTxt/TestunRhydd

Mae TestunRhydd bellach ar-lein ac ar gael yn rhad ac am ddim i bawb. I roi cynnig ar TestunRhydd ewch i: www.freetxt.app

Cydnabyddiaeth ariannu 

Datblygwyd TestunRhydd fel rhan o brosiect ymchwil ar y cyd a ariannwyd gan yr AHRC ‘TestunRhydd yn cefnogi dadansoddi data arolygon a holiaduron testun-rhydd dwyieithog’ gyda chydweithwyr o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caerhirfryn (Rhif y Grant AH/W004844/1).

Yn ôl i’r brig

Cynllun logo TestunRhydd gan Katie Rayson