Cliciwch y dolenni isod er mwyn:

Cyrchu Geirfan

Geirfan: rhestr wedi’i chyd-grynhoi o 500 o’r geiriau mwyaf aml yn yr iaith Gymraeg, a gynlluniwyd at ddefnydd dysgwyr ar lefelau hyfedredd A1/A2. Datblygwyd y rhestr geirfa hon gan ddefnyddio symbiosis arloesol o ddulliau wedi’u seilio ar gorpws (gyda data o gorpws CorCenCC) ynghyd â mewnsyllu ac adfyfyrio dan arweiniad arbenigwyr; dull gweithredu y mae modd ei ddyblygu a’i addasu i’w ddefnyddio yng nghyd-destun unrhyw iaith arall. Mae’r ddogfen hon yn rhoi manylion am y dull gweithredu a ddefnyddiwyd i roi’r rhestr geirfa hon at ei gilydd. Cyflwynir y rhestr ei hun yn yr Atodiadau, fel y canlyn:

  • Atodiad A: y 750 gair mwyaf aml o CorCenCC
  • Atodiad B: y rhestr 500-gair sylfaenol, heb ychwanegiadau
  • Atodiad C: rhestr weithredol yr ychwanegiadau, yn nhrefn yr wyddor

Cliciwch yma i ofyn am gopi o’r rhestri Geirfan. Mae manylion ynglŷn â sut i ddyfynnu Geirfan ar gael yma. Gallwch ddod o hyd i fanylion am gyhoeddiad sydd yn ymwneud â chreu Geirfan yma.  

https://geirfan.cymru/adref_index.html

Datblywgyd gwefan Geirfan ochr yn ochr â’n rhestr geiriau ar sail amlder, i ddangos potensial y data er mwyn creu deunyddiau dysgu. Seiliwyd targed cychwynnol Geirfan o 500 o eiriau ar ein rhestr geiriau sy’n deillio o CorCenCC, wedi ei hategu a’i mireinio yn sgil adborth tiwtoriaid Cymraeg ac arbenigwyr ieithyddol eraill. Mae’r esiamplau enghreifftiol a ddarperir yng nghofnodion geiriadur Geirfan yn deillio o CorCenCC hefyd, a defnyddir data amlder y prosiect hwn er mwyn sicrhau mai brawddegau enghreifftiol gyda geirfa amlder-uchel sy’n cael eu dewis yn awtomatig, lle bynnag bo modd. Mae’r data amlder hefyd yn cyfrannu at nodi’r cydleoliadau, yr ymadroddion a’r priod-ddulliau aml-eu-defnydd sy’n cael eu rhestru yng nghofnodion y geiriadur, fel bod defnyddwyr yn cael gwybodaeth ddefnyddiol am y ffurfiau ieithyddol y maen nhw fwyaf tebygol o ddod ar eu traws wrth ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd.

Yn ôl i’r brig

Cyrchu’r rhestri amlder geiriau

Mae amrywiaeth o restri amlder geiriau o gorpws CorCenCC (Yr Amliadur) ar gael yma. Maen nhw’n cynnwys:

  • 100 gair uchaf yn CorCenCC (rhestr yn ôl safle)
  • 1000gair uchaf yn CorCenCC (yn ôl yr wyddor)
  • 100 lema uchaf ynCorCenCC (rhestr yn ôl safle)
  • 1000 lema uchaf yn CorCenCC (yn ôl yr wyddor)
  • 100 lema uchaf ynCorCenCC (geiriau dosbarth agored yn unig)
  • 1000 gair uchaf yn CorCenCC (geiriau dosbarth agored yn unig; yn ôl yr wyddor)
  • 500 enw uchaf ynCorCenCC (rhestr yn ôl safle)
  • 500 berf uchaf yn CorCenCC (rhestr yn ôl safle)
  • 500 ansoddair uchaf yn CorCenCC (rhestr yn ôl safle)
  • 50 adferf uchaf yn CorCenCC (rhestr yn ôl safle)
  • 50 ebychiad uchaf yn CorCenCC (rhestr yn ôl safle)
  • 100gair dosbarth agored uchaf yng nghydran ysgrifenedig CorCenCC (rhestr yn ôl safle)
  • 100gair dosbarth agored uchaf yng nghydran lafar CorCenCC (rhestr yn ôl safle)
  • 100gair dosbarth agored uchaf yng nghydran iaith electronig CorCenCC (rhestr yn ôl safle)

Cliciwch yma i ofyn am gopi o’r rhestri amlder llawn. Mae’r rhestri amlder hyn yn cynnwys y rhai a restrir uchod yn ogystal â’r canlynol:

  • Yr holl ddata amlder, yn ôl yr wyddor (ffeil excel file)
  • Yr holl ddata amlder, yn ôl yr amlder(ffeil excel)
  • Y 5000 gair mwyaf aml, gyda dalennau ar wahân ar gyfer pob band amlder 500-gair(ffeil excel)

Mae’r rhestri amlder geiriau hyn yn dweud wrthym pa eiriau a lemâu sy’n cael eu defnyddio fwyaf aml yn yr iaith Gymraeg (yn gyffredinol ac o fewn/ar draws dulliau cyfathrebu penodol). Mae manylion ynglŷn â sut i ddyfynnu’r rhestri hyn ar gael yma.

Yn ôl i’r brig