Roedd tîm prosiect CorCenCC yn cynnwys:
- Academyddion sy’n gweithio ym meysydd iaith, addysg a chyfrifiadura o Brifysgolion Caerdydd, Abertawe, Caerhirfryn a Bangor [gweler Tîm Rheoli CorCenCC, a Cydweithwyr academaidd, isod]
- Cynorthwywyr ymchwil, cynorthwywyr prosiect a myfyrwyr PhD ym Mhrifysgolion Caerdydd, Abertawe, Caerhirfryn a Bangor [gweler Ymchwilwyr, isod]
- Ymgynghorwyr ag arbenigedd mewn ieithyddiaeth corpora a llunio corpora, o Ganada, Lloegr, Japan, UDA a Chymru [gweler ymgynghorwyr, isod]
- Defnyddwyr Cymraeg yn y gymuned ac yn broffesiynol, gwneuthurwyr polisi ac addysgwyr [gweler Grŵp Cynghori’r Prosiect, isod]
- Llysgenhadon
Mae aelodau’r tîm a rolau’r prosiect wedi’u rhestru isod – heblaw lle y nodir dyddiadau, cymerwyd rhan yn y prosiect o 1 Mawrth 2016 hyd at 31 Awst 2020.
Hefyd, hoffem gydnabod a diolch i (i) Lowri Williams, Lorena Varona, Alys Greene a Katharine Young am eu cymorth gweinyddol i’r prosiect (ii) ein myfyrwyr interniaeth, Alys Greene, Sioned Johnson-Dowdeswell, Tesni Galvin, Anelia Kurteva a Sali Nicols, a’r (iii) tîm 100+ o drawsgrifwyr a gwirwyr rheoli ansawdd.
Tîm Rheoli CorCenCC
Dawn Knight (PI) Prifysgol Caerdydd |
Tess Fitzpatrick Prifysgol Abertawe |
Steve Morris Prifysgol Abertawe |
Jeremy Evas Prifysgol Caerdydd (2016-2018) |
Alex Lovell Prifysgol Abertawe (2018-20) |
Jonathan Morris Prifysgol Caerdydd (2018-20) |
Scott Piao
Prifysgol Caerhirfryn (2015-2019) |
|
Paul Rayson Prifysgol Caerhirfryn |
Irena Spasić Prifysgol Caerdydd |
Mark Stonelake Prifysgol Abertawe (2016-18) |
Enlli Môn Thomas Prifysgol Bangor |
Laura Arman Prifysgol Caerdydd (2019-20) |
Josh Davies Prifysgol Bangor (2018-20) |
Ignatius Ezeani Prifysgol Caerhirfryn (2018-20) |
Vignesh Muralidaran Prifysgol Caerdydd (2016-20) |
|
Jennifer Needs Prifysgol Abertawe (2016-19) |
Steven Neale Prifysgol Caerdydd (2016-19) |
Mair Rees Prifysgol Abertawe (2016-19) |
Bethan Tovey Prifysgol Abertawe (2018-20) |
|
|
Gareth Watkins Prifysgol Caerdydd (2017-19) |
Lowri Williams Prifysgol Caerdydd (2017-19) |
Ymgynghorwyr
Laurence Anthony Prifysgol Waseda |
Thomas Michael Cobb Prifysgol Québec ym Montréal |
Margaret Deuchar Prifysgol Caergrawnt |
Kevin Donnelly Llawrydd |
Michael McCarthy Prifysgol Nottingham |
Kevin Scannell Prifysgol Saint Louis |
Grŵp Cynghori’r Prosiect
- Gwen Awbery, Prifysgol Aberystwyth / Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
- Karen Corrigan, Athro Ieithyddiaeth a Saesneg, Prifysgol Newcastle
- Emyr Davies, CBAC-WJEC
- Andrew Hawke, Rheolwr Gyfarwyddwr Geiriadur Prifysgol Cymru
- Aran Jones, Awdur cyrsiau a Phrif Weithredwr SaySomethingin.com Cyf
- Llion Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr, Bangor
- Gareth Morlais, Arbenigwr technoleg a chyfryngau cymdeithasol Cymraeg yn Uned Iaith Gymraeg, Llywodraeth Cymru
- Mair Parry-Jones, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
- Owain Roberts, Pennaeth Ymchwil Gweithredol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Maggie Tallerman, Athro Ieithyddiaeth, Prifysgol Newcastle
- Colin Williams, Cymrawd, Coleg Sant Edmwnd, Prifysgol Caergrawnt
Llysgenhadon
Mae llysgenhadon CorCenCC yn cynrychioli cwmpas a chyrhaeddiad y prosiect, a’i berthnasedd i fywyd Cymreig.
Cerys Matthews | Nigel Owens | Nia Parry | Damian Walford Davies |
Dyma’r hyn y mae ein llysgenhadon CorCenCC yn ei ddweud:
“Mae’n bleser mawr gen i gefnogi’r Corpws Cenedlaethol Cyfoes Cymraeg…adnodd Cymraeg am ddim, ar–lein fydd yn ffynhonnell gwybodaeth gyfoethog i artistiaid creadigol, datblygwyr meddalwedd, cyfieithwyr, dysgwyr, athrawon, llunwyr polisi, ac unrhyw un sydd eisiau ymwneud â’r hyn sy’n gwneud ein hiaith fyw, real yn ddyrys, yn amryddawn ac yn hardd.” Cerys Matthews
“Mae’r prosiect yma’n mynd â’n gwybodaeth a’n defnydd o’r Gymraeg i lefel newydd. Bydd y corpws yn cynnwys enghreifftiau o’r Gymraeg o bob pau: o’r cae rygbi a’r stiwdio deledu, i areithiau gwleidyddol a gwerslyfrau academaidd. O’r diwedd, bydd gan ddysgwyr, geiriadurwyr, darlledwyr a phawb sy’n defnyddio’r iaith bob dydd gofnod o iaith ‘bywyd go iawn’ a fydd yn ein helpu i weld sut mae Cymraeg cyfoes yn cael ei defnyddio mewn gwirionedd.” Nigel Owens
“Bydd yn treiddio i sut mae ein hiaith yn esblygu a datblygu a sut rydym yn ei defnyddio yn y Gymru gyfoes. Mae hi’n cynnig ffenest i ni i weld ein heniaith hardd, gyfoethog, farddonol, a bydd yn rhoi dealltwriaeth i ni ohoni a chipolwg i ni o’i dyfodol. Byddwn yn dysgu am sut rydym yn defnyddio strwythurau a brawddegau a phatrymau, treigladau, bratiaith a iaith lafar, iaith testun ac e-bost, sut rydym yn talfyrru, beth rydym yn ei ddweud a sut rydym yn ei fynegi. Yn fy marn i bydd y gwaith hwn o bwysigrwydd hanesyddol, nid yn unig yn ieithyddol ond fel cofnod o’n hanfod fel cenedl a’n lle yn y byd.” Nia Parry
“Mae CorCenCC yn cyflythrennu a chysylltu. Ffrwyth cydweithio rhwng cymunedau a cholegau, bydd y corpws yn cynnig cipolwg ar ein bywydau amlgyfryngol a’n hunaniaethau haenog. Dyma brosiect angenrheidiol a fydd yn datgelu ‘cyflawn we’ ein defnydd cyfredol o’r Gymraeg yn ei holl hyblygrwydd.” Damian Walford Davies