Lowri pictureMae Dr Lowri Williams newydd gwblhau PhD yn Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd. Ei meysydd diddordeb gwyddonol yw dadansoddi teimladau, prosesu iaith naturiol, mwyngloddio testunau, adnoddau iaith, dysgu drwy beiriant, peirianneg nodweddion, dosbarthiad data, torfoli, a dadansoddi data. Cyn gwneud ei PhD, cwblhaodd Lowri BSc mewn Systemau Gwybodaeth o fewn yr un gyfadran. Mae Lowri’n cyfrannu at gasglu a phrosesu data Cymraeg ar gyfer CorCenCC a chynnig arbenigedd iaith penodol ar draws y prosiect.